top of page

Ein Cwricwlwm
Our Curriculum

Ein taith tuag at Cwricwlwm i Gymru

Lluniwyd Cwricwlwm Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar ar y cyd gyda holl rhanddeiliad yr ysgol. Gofynnwyd i ddisgyblion, staff, rhieni a llywodrathywr beth oedd yn bwysig er mwyn magu  dinasyddion llwyddiannus yn Llanilar. Mae gwrando ar lais ein rhanddeiliaid yn broses bwysig a pharhaus er mwyn sicrhau ein bod yn ateb i ofynion ein dysgwyr a dysgwyr y dyfodol. Mae ein  cwricwlwm yn sicrhau bod pob dysgwr yn ymrwymo’n llawn i gymuned ein hysgol ac yn cael mynediad i holl weithgareddau’r ysgol.

Mae cwricwlwm Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar wedi ei sefydlu ar themau tymhorol. Rydym yn cynnig profiadau dysgu sydd yn galluogi ein dysgwyr i fod yn greadigol, yn ddychmygus ac yn  arloesol mewn awyrgylch sydd yn gynhwysol, cartrefol a chyfforddus. Wrth wrando ar lais ein rhanddeiliaid, amlygwyd pa mor bwysig oedd dysgu am ein  cymuned, ein treftadaeth,  ein hanes a’n diwylliant. Mae ein themau felly’n cysylltu’n gryf gydag egwyddorion ym myd natur ac rydyn yn falch o weithredu Prosiect Harmoni. Credwn gall egwyddion natur lywio ac ysbrydoli’r ffordd yr ydym yn dysgu a gall hyn yn ei dro roi cyfleuoedd i’n dysgwyr gynllunio prosectau sy’n ein harwain at ddyfodol iachach a mwy cynaliadwy. Mae 6 Egwyddor yn arwain ein themau, sef Cyd-ddibyniaeth, Cylchred, Amrywiaeth,  Unoliaeth, Addasu ac Iechyd.

​

Our journey towards a Curriculum for Wales

Our Curriculum was written in collaboration with all stakeholders. Pupils, staff, parents and governor were asked what was important in order to raise successful citizens in Llanilar. Listening to the voices of our stakeholders is an important and continuous process in order to ensure that we meet the requirements of our learners and future learners. Our curriculum ensures that all learners fully commit to our school community and have access to all school activities. The curriculum of  Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar is based on termly themes. We offer learning experiences that enable our learners to be creative, imaginative and innovative in an atmosphere that is inclusive, homely and comfortable. When listening to the voice of our stakeholders, it was highlighted how important it was to learn about our community, our heritage, our history and our culture. Our themes therefore connect strongly with principles based on nature and we are proud to implement the Harmony Project. We believe that the principles of nature can inform and inspire the way we learn and this in turn can give our learners opportunities to plan projects that lead us to a healthier and more sustainable future. 6 Principles guide our themes—Interdependence, Cycle, Diversity, Adaptation and Health.

Ein Gweledigaeth

Ein nod yw i greu ysgol hapus, cyfeillgar, iach a diogel. Trwy greu awyrgylch gynhwysol a gofalgar, sicrhewn fod pob unigolyn yn gwneud y gorau i gyrraedd ei llawn potensial trwy fod yn ddysgwyr annibynnol a brwdfrydig sy’n barod i fentro, i fod yn greadigol ac i fod yn ddinasyddion uchelgeisiol.

Trwy ddatblygu partneriaethau effeithiol yn y gymuned a thu hwnt, sicrhewn ymdeimlad o barch at eraill, at eu hiaith, eu cymuned a’u diwylliant. 

Our Vision

Our vision is to create a happy, friendly, healthy and safe school. By creating an inclusive and caring atmosphere, we ensure that each individual does their best to reach their full potential by being independent and enthusiastic learners who are ready to take risks, to be creative and to be ambitious citizens. By developing effective partnerships in the community and beyond, we ensure a sense of respect for others, for their language, their community and their culture.

Gareth_galluog.jpg
Megan_Mentrus.jpg
Gerallt_Gwybodus.jpg

Y 4 Diben 

Mae’r 4 diben wrth wraidd ein cwricwlwm. Nod Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar yw i gefnogi pob dysgwr i fod yn fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau

  • cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a Gwaith

  • dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a'r byd

  • unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

The 4 Purposes

The 4 purposes are at the heart of our curriculum. The aim of  Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar is to support all learners to be:

  • ambitious, capable learners, ready to learn throughout their lives

  • enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work

  • ethical, informed citizens of Wales and the world

  • healthy, confident individuals, ready to live fulfilling lives as valuable members of society 

Iona_Iach.jpg

Ein Gwerthoedd

Our Values 

Yn dilyn trafodaeth gyda’n holl rhanddeiliaid— (y staff, rheini, llywodraethwyr a’r disgyblion) penderfynwyd taw dyma gwerthoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar. Rhain fydd sail ein cwricwlwm.

Following a discussion with all our stakeholders — (the staff, parents, governors and pupils) it was decided that these are the values of Llanilar Community Primary School.  These will be the basis of our curriculum.

Creadigol
Creative

Uchelgeisiol
Ambitious

Cymuned Hapus, Cyfeillgar a Charedig
Happy, Friendly and Kind Community

Caredig
Kind

Mentrus
Enterprising

Dangos Empathi 
Empathetic

Cymreig
Welsh

bottom of page