top of page

Ysgolion Iach
Healthy Schools

Mae Ysgol Llanilar wedi bod yn aelod o Gynllun Ysgolion Iach Ceredigion ers 2004.

 

Llwyddodd yr ysgol i ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol yn 2013. Rydym wedi llwyddo i adnewyddu’r statws ddwy waith ers hynny yn 2016 a 2018.

 

Fel rhan o’r Cynllun mae’r ysgol yn weithgar iawn, dyma rai enghreifftiau -

  • Rydym yn darparu poteli dŵr ar gyfer pob plentyn ac yn hybu’r plant i yfed dŵr yn ystod y dydd.

  • Rydym yn hybu bwyta’n iach drwy wneud dewisiadau iach amser cinio a dod â ffrwyth i’r ysgol i’w fwyta amser chwarae.

  • Rydym yn gwerthu ffrwyth yn y siop amser chwarae.

  • Rydym yn cydnabod y perthynas rhwng diet iach, iechyd y geg ac iechyd yn gyffredinol sy’n cynnwys diet ac ymarfer corff.

  • Rydym yn trefnu ymweliadau gan asianteithiau allanol e.e. nyrs yr ysgol, NSPCC a’r Frigad Dân er mwyn atgyfnerthu gwaith ar iechyd a lles o fewn y dosbarth.

  • Rydym yn sicrhau amgylchedd groesawgar drwy hau hadau i dyfu planhigion, llysiau a blodau; edrych ar fanteision ail-gychu - poteli llaeth, papur, bin compost.

  • Rydym yn dysgu yn flynyddol am ‘Ddiogelwch yn yr haul’.

  • Rydym yn gweithio tuag at Wobr Arian UNICEF – Hawliau Plant. (Cyflawnwyd y Wobr Efydd ym Mai 2020)

  • Rydym yn cynnal sesiynau meddwlgarwch, ioga a Sumba er mwyn dysgu’r disgyblion am iechyd meddwl a lles corfforol. Mae pawb yn cael blas ar bob gweithgaredd ar ddiwrnodau lles penodedig yn ogystal â gwersi wythnosol.

 

Gobeithiwn feithrin agweddau, sgiliau ac ymddygiad cadarnhaol yn ein disgyblion drwy fod yn rhan o’r Cynllun Ysgolion Iach. Rydym yn ceisio atgyfnerthu’r hyn a ddysgir am iechyd a lles yn y dosbarth ym mywyd beunyddiol yr ysgol.

Llanilar School has been a member of the Ceredigion Healthy School Scheme since 2004.

The school achieved the National Quality Award in 2013. We have successfully renewed the status twice since then in 2016 and 2018.

 

         Here are some examples of the scheme at work in our school -

·We supply water bottles for each child and encourage the children to drink water during the day.

·We promote healthy eating by making healthy choices dinner time and bringing fruit to eat at playtime.

  • We sell fruit in the shop at playtime.

·We recognise the link between a healthy diet and health in general which includes diet and exercise.

·We organise visits by outside organisations e.g. the school nurse, NSPCC and Fire Brigade in order to reinforce the work on health and wellbeing that is taught in the classroom.

  • We ensure a welcoming environment by sowing seeds to grow plants, vegetables and flowers; look at the benefits of recycling - milk bottles, paper, compost bin.

  • We learn annually about 'Safety in the sun'.

  • We are currently working towards the UNICEF Silver Award - Children's Rights. (Bronze Award achieved May 2020)

  • We run mindfulness, yoga and Zumba sessions to teach pupils about mental health and physical well-being. Everyone gets a taste of each activity on designated well-being days as well as weekly lessons.

 

Our aim is to develop positive attitudes, skills and behaviors in our pupils by being part of the Healthy Schools Scheme. We try to reinforce what is learned about health and wellbeing in the classroom in the daily life of the school.

ysg%20iach%20logo_edited.jpg
bottom of page